2011 Rhif 2184 (Cy. 236)

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011

NODYN ESBONIADOL

 (Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010.  Cânt eu gwneud o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008, ac maent yn gymwys o ran  Cymru ac maent yn dod i rym ar  1 Hydref 2011.

Mae Rheoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr godi isafswm tâl am fagiau siopa untro.  Maent yn gosod gofynion cadw cofnodion ac adrodd ar werthwyr, penodi awdurdodau lleol  i weinyddu'r cynllun codi tâl a gosod pwerau sancsiynu sifil ar awdurdodau lleol i orfodi'r Rheoliadau.

Mae'r prif ddiwygiadau a wneir i Reoliadau 2010 gan y Rheoliadau hyn fel a ganlyn.

Mae Rheoliad 4 yn rhoi rheoliad 6 newydd yn lle'r rheoliad gwreiddiol.  Effaith y newid fydd sicrhau, pan fydd cwsmer yn talu 5 ceiniog am fag siopa untro bod y 5 ceiniog yn cynnwys TAW pan delir ef i werthwr sydd wedi ei gofrestru ar gyfer TAW.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad 7A newydd yn Rheoliadau 2010.  Mae'r rheoliad newydd yn datgymhwyso'r gofynion cadw cofnodion ac adrodd ar gyfer blwyddyn adrodd os yw gwerthwr yn cyflogi llai o staff na'r hyn sy'n cyfateb i ddeg aelod llawnamser ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn adrodd honno.

Mae'r rheoliad 6 yn rhoi rheoliad 8 newydd yn lle'r rheoliad gwreiddiol.  Un o brif effeithiau'r newid yw ei gwneud yn ofynnol i werthwyr ddiystyru unrhyw swm dros 5 ceiniog y mae cwsmeriaid yn ei dalu am fagiau siopa untro pan fydd gwerthwyr yn cyflwyno adroddiad am yr enillion net a gafwyd drwy'r tâl a godwyd.  

Prif effaith arall y newid yw cynnwys y costau yr aed iddynt cyn 1 Hydref 2011 yn “costau rhesymol”.  Yn ei dro, effaith hyn fydd pan fo gwerthwyr yn cyflwyno adroddiad am yr enillion net a gafwyd drwy'r tâl a godir  yn y flwyddyn gyntaf, na fydd y swm hwnnw'n cynnwys unrhyw gostau y maent yn rhesymol wedi mynd iddynt wrth baratoi at gyflwyno'r tâl .

Mae'r rheoliad 7 yn rhoi rheoliad 13(1) newydd yn lle'r rheoliad gwreiddiol.  Effaith hyn yw ychwanegu dau amgylchiad pellach pan na chaniateir cyflwyno hysbysiad o’r bwriad i osod cosb ariannol benodedig.  Yr amgylchiadau yw pan fo’r gwerthwr eisoes wedi gwneud taliad rhyddhad rhag atebolrwydd mewn perthynas â'r un toriad o dan Rheoliadau 2010; neu os gosodwyd eisoes gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.

Mae rheoliad 8 yn mewnosod paragraff newydd 1(1)(za) yn Atodlen 1.  Mae'r paragraff newydd hwn yn dwyn ynghyd yr esemptiadau gwreiddiol a gaed ym mharagraff 1(1)(a) i (ch) a (k) o'r Atodlen honno ac yn diwygio'r ffordd y mae'r esemptiadau hynny'n gweithio.  Yr effaith yw y bydd bag siopa untro a ddefnyddir i gynnwys un neu fwy o'r eitemau a restrir yn awr yn y paragraff newydd 1(1)(za) yn esempt rhag y tâl; nid oes angen bellach i fag gael ei ddefnyddio'n unig i gynnwys un o'r eitemau hynny er mwyn cael mantais yr esemptiad.

Mae rheoliad 8 yn tynnu'r esemptiad ar gyfer bagiau wedi eu selio a gyflenwir gan werthwr cyn cyrraedd y man gwerthu.  Mae rheoliad 8 hefyd yn rhoi paragraff newydd 1(1)(ff) yn lle’r gwreiddiol. Yr effaith yw  esemptio bagiau anfon archeb drwy'r post a bagiau negeseuwyr rhag y gofyniad i godi tâl.

Cafodd yr asesiad effaith rheoleiddiol a luniwyd ar gyfer Rheoliadau 2010 ei ddiweddaru i gynnwys yr effaith a ddaw wrth ddatgymhwyso'r gofynion adrodd i fusnesau micro.  Gellir cael copi o'r asesiad effaith hwnnw gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd   CF10 3NQ. 


 

2011 Rhif 2184 (Cy. 236)

DIOGELU’R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed                                          2 Medi 2011            

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru                                           7 Medi 2011

Yn dod i rym                            1 Hydref 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77(2) a 90(3)(a) o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 a pharagraffau 1, 2, 4, 7, 9 a 10 o Atodlen 6 iddi([1]).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi  Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010([2]).

Diwygio Rheoliadau 2010

2.(1)(1) Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)

3.(1)(1) Yn rheoliad 2(1)—

(a)     yn lle'r diffiniad o “y tâl” (“the charge”) rhodder—

“ystyr “y tâl” (“the charge”) yw isafswm y gydnabyddiaeth y mae'n rhaid i gwsmer ei thalu yn rhinwedd rheoliad 6(2);”;

(b)     mewnosoder yn y mannau priodol—

                           (i)    “mae “cydnabyddiaeth” (“consideration”) yn cynnwys unrhyw TAW y gellir ei godi;”;

                         (ii)    “mae i “TAW” (“VAT”) yr ystyr a roddir i “VAT” yn adran 96 o Ddeddf Treth ar Werth 1994([3]).”.

Diwygio rheoliad 6 (gofyniad i godi tâl)

4. Yn lle rheoliad 6 rhodder—

“Gofyniad i godi tâl

6.(1)(1) Rhaid i werthwr godi tâl am bob bag siopa untro newydd a gyflenwir—

(a)     yn y lle yng Nghymru lle y gwerthir y nwyddau, at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cymryd oddi yno;

(b)     at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cyflenwi i bersonau yng Nghymru.

Mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 7.

(2) Y swm y mae'n rhaid i werthwr ei godi yw'r swm hwnnw sy'n sicrhau bod y gydnabyddiaeth a delir gan gwsmer am bob bag siopa untro ddim llai na 5 ceiniog.”.

Ychwanegu rheoliad 7A (cymhwyso Rhan 3)

5. Yn Rhan 3 (cofnodion a chyhoeddi) o flaen rheoliad 8 (cadw cofnodion) mewnosoder—

Cymhwyso'r Rhan hon

7A.—(1) Mae'r Rhan hon yn gymwys i werthwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn adrodd y mae'r gwerthwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ynddi.

(2) Yr amod yw bod y gwerthwr yn cyflogi staff sy'n cyfateb i ddeg aelod llawnamser neu fwy ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn adrodd”.

Amnewid rheoliad 8 (cadw cofnodion)

6. Yn lle rheoliad 8, rhodder—

“Cadw cofnodion

8.—(1)(1) Rhaid i werthwr gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer pob blwyddyn adrodd.

(2) Rhaid i werthwr ddal gafael ar gofnodion am gyfnod o dair blynedd gan gychwyn ar 31 Mai yn y flwyddyn adrodd yn dilyn honno y mae cofnod yn berthnasol iddi.

(3) Dyma'r wybodaeth—

(a)     nifer y bagiau siopa untro a gyflenwir sy'n denu'r tâl;

(b)      y swm a gafwyd yn gydnabyddiaeth am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl ;

(c)     y swm a gafwyd drwy'r tâl a godwyd;

(ch) enillion net y tâl([4]);

(d)     dadansoddiad o sut y daethpwyd at y swm sy'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng y swm a gafwyd drwy'r tâl a godwyd ac enillion net y tâl, gan gynnwys—

                           (i)    y dosraniad rhwng unrhyw TAW y gellir ei chodi a chostau rhesymol;

                         (ii)    y dosraniad rhwng pennau gwahanol o gostau rhesymol; 

(dd) at ba ddibenion y defnyddiwyd enillion net y tâl.

(4) Y canlynol yw'r symiau penodedig at ddibenion y diffiniad o “net proceeds of the charge” ym mharagraff 7(4) Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008([5])—

(a)     unrhyw swm sy'n fwy na'r tâl a gafwyd yn gydnabyddiaeth am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl;

(b)     unrhyw swm o TAW y gellir ei chodi a gafwyd drwy'r tâl;

(c)     swm unrhyw gostau rhesymol.

(5)   Yn y rheoliad hwn ystyr “costau rhesymol” (“reasonable costs”) yw—

(a)     costau  y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;

(b)     costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid.

Mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (6).

(6) Mewn perthynas â'r flwyddyn adrodd gyntaf, mae “costau rhesymol” yn cynnwys costau yr aeth gwerthwr iddynt cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym—

(a)      i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;

(b)      i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid.”.

Diwygio rheoliad 13 (cyfuniad o gosbau)

7.Yn lle rheoliad 13(1) rhodder —

 “(1) Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy'n ymwneud â chosb ariannol benodedig i werthwr yn unrhyw un neu ragor o'r amgylchiadau canlynol—

(a)     pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi cael ei osod ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau hyn;

(b)     pan fo'r gwerthwr wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau hyn drwy dalu swm penodedig;

(c)     pan fo cosb ariannol benodedig eisoes wedi ei gosod mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.”.

Diwygio Atodlen 1 (esemptiadau)

8.(1)(1) Ym mharagraff 1(1)  o Atodlen 1—

(a)     o flaen paragraff (a) mewnosoder—

“(za) bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys un neu fwy o eitemau o'r mathau canlynol—

(i)  bwyd heb ei becynnu ar gyfer ei   fwyta gan bobl neu gan anifeiliaid;        

(ii) hadau, bylbiau, cormau neu risomau rhydd heb eu pecynnu;   

(iii) unrhyw fwyell, cyllell, llafn cyllell neu lafn rasel heb eu pecynnu;            

(iv) nwyddau heb eu pecynnu a halogwyd gan bridd;

       (v)  eitemau o'r categorïau a bennir yn is-

      baragraff (2);”

(b)     hepgorer paragraffau (a) i (ch) ac (dd);

(c)     yn lle paragraff (ff) , rhodder—

“(ff) bagiau anfon archeb drwy'r post a bagiau negeseuwyr;”;

(ch) hepgorer is-baragraff (k).

(2) Ym mharagraff 1(2)(b) o Atodlen 1 hepgorer y geiriau “neu pan gyflenwir”.

 

 

 

 

 

 

John Griffiths

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

 

2 Medi 2011

 

 

 

.



([1])           2008 p.27; gweler adran 77(3) o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 i gael y diffiniad o “the relevant national authority”.   Mae diwygiadau i adran 77 o'r Ddeddf ac i Atodlen 6 iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([2])           O.S 2010/2880 (Cy.238).

([3])           1994 p. 23; mae diwygiadau i adran 96 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([4])           I gael ystyr “enillion net y tâl” gweler y diffiniad o “net proceeds of the charge” ym mharagraff 7(4) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.

([5])           2008 p. 27.